Friday 3 September 2010

Gorffen fy nhymor fel Llywydd Cenedlaethol

Mis Medi yn barod ac yn amser nawr i drosglwyddo'r blog i'r Llywydd newydd - Mererid. Dwi wedi cael amser braf yn y ddwy flynedd ola yma ac wedi dod i adnabod cymaint o Gymru ac wrthgwrs cymaint o aelodau'r Mudiad. Cawsom weithgareddau diddorol a difyr ac rwy wedi bod yn hynod o ffodus fod gan y Mudiad swyddogion a staff ymroddedig, gweithgar a chydwybodol. Diolch iddynt i gyd am hwyluso a chefnogi gydol y ddwy flynedd.
Gair yn fyr am yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy (Blaenau'r Cymoedd a Blaenau Gwent) eleni. Roedd yn bleser bod ar stondin y Mudiad yno a gweld a phrofi y brwdfrydedd yn y fro a'r balchder wedyn wrth i un o aelodau'r rhanbarth ennill y Goron - sef Glenys Roberts o Gangen y Garth ac yna Julia Hawkins (un o ddwy a sefydlodd Glwb Gwawr y Fenni) yn ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn. Ym Maes D aelod arall o'r Fenni Margaret ............... yn ennill cadair y Dysgwyr - gwych eto. Ac yn GORON (!)ar y cyfan enillodd y rhanbarth wobr Sefydliad y Merched am y Babell orau gan elusen ar y Maes. Oedd, roedd yna fwrlwm arbennig ar y stondin a chroeso arbennig gan yr aelodau i bawb alwodd yno. Uchafbwynt arall oedd cyflwyniad Rhanbarth yn Y Pafiliwn bnawn Mercher yn rhoi hanes yr ardal yn annwyl iawn ac yn nhafodiaeth yr yr ardal - yn wledd i'r llygad a'r glust a hyfryd gweld cymaint o aelodau yn cymryd rhan ynddo. Cefais gyfle i ymuno â nhw ar y llwyfan wrth urddo Mererid ac yna cafwyd derbyniad cyffrous i'n llywydd newydd gydag adloniant a chyfarchion i Mererid gan gangen Beulah a Rhanbarth Conwy. Yn y derbyniad roedd Rhanbarth y De Ddwyrain yn cyflwyno llyfrau eto i Gymdeithas y Deillion, wedi iddynt drosi llyfrau Bethan Gwannas i'r Braille ac roedd hi yno i fod yn rhan o'r cyflwyniad ac fe soniodd hi am ei balchder fod y llyfrau yma ar gael i'r deillion nawr.
Bnawn Gwener wrth inni adael y Maes aeth 4 ohonom i weld y coed blannwyd gan y Rhanbarth ar bwys safle'r Eisteddfod. Maent yn goed cynhenid, cryf a chadarn( derwen, criafolen, coeden geirios a bedwen arian) ac edrychaf ymlaen i'w gweld mewn blynyddoedd a ddaw, yn dyst i ymweliad yr Eisteddfod â'r fro a chyfraniad Merched y Wawr yno.
A beth am argraffiadau eraill o'r wythnos yng Nglyn Ebwy? Dyma ardal na fum i (na llawer arall) i ymweld ag e o'r blaen ond roedd yn agoriad llygad a bydd yn ddiddorol gweld y datblygiadau yn y sfale dros y degawd nesa- gyda popeth yn cael ei wneud mor amgylcheddol garedig a phosib. Roedd yna griw gweithgar croesawgar o aelodau'r rhanbarth yn gweithio'n llawen ac effeithiol ar y stondin gydol yr wythnos a rhoi croeso i bawb alwodd heibio. Swyddogion y rhanbarth a'r swyddog datblygu (Eirlys) yn ddiwyd tu hwnt hefyd ac wrthgwrs Tegwen. Elfair a Dai yno yn cadw golwg ar bopeth. Braf oedd gweld Dai a'i bartner newydd (tad Enfys) yn eu ffedogau Merched y Wawr yn paratoi te a lluniaeth ar gyfer y derbyniad ddydd Mercher.
Do cafwyd digon o gyffro a bu teithio nol a mlaen imi yn ddigon hwylus - dim tagfa traffig o gwbl.
A nawr rhaid imi fynd ati i wneud yr holl bethau sydd wedi eu gohirio dros y ddwy flynedd ola yma a dechrau ar brosiectau newydd siwr o fod.
Felly ymlaen a ni
Hwyl
Esyllt (Cynlywydd nawr!)
hwyl a diolch
Esyllt

Monday 26 July 2010

Sioe Llanelwedd

Wythnos brysur yn y Sioe unwaith eto a llawer wedi galw ar y stondin am sgwrs a phaned o de. Paneli diddorol a chain gan ranbarth Ceredigion yn seiliedig ar awdl Dic Jones - Y Cynhaeaf ac roedd yr arlunwyr wedi llwyddo i greu campwaith chwarae teg. Daeth Delyth (merch y diweddar Dic Jones) i weld y paneli ddechrau'r wythnos ac roedd yn eu canmol yn fawr ac yna daeth gwraig a 3 chwaer y bardd i gael paned a gweld y paneli fore Mercher a 'nhwythau wedi eu plesio hefyd.

Plannwyd coeden ar faes y sioe bnawn Mercher ar bwys y bandstand a daeth cynulleidfa deilwng i weld y seremoni.

12 rhanbarth wedi cystadlu ar y cystadleuthau crefft a choginio a'r safon yn gyson uchel drwyddi draw, - Rhanbarth Arfon yn fuddugol a nhwythau wrth eu boddau - heb ennill ers amser nawr. Jill Owen o ranbarth Faldwyn Powys enillodd ar drefniant ar Ddawns y Dail yn y babell flodau

Rown yn falch dod adre nos Iau i ddad- flino a rhaid diolch i Tegwen ac Elizabeth am eu gwaith diflino yn paratoi a chynnal y stondin a chlirio nos Iau wrth gwrs. Paratoi at y steddfod nawr - wythnos sydd nes y byddwn yng Nglyn Ebwy a gobeithio nawr am dywydd sych o leia!

Esyllt